Llythr Hysbysu - Ionawr
Annwyl Ymgynghorai
Yn unol â gofynion Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 a Chod Trefniadaeth Ysgolion 2018, rydyn ni'n ysgrifennu atoch i roi gwybod i chi am gyhoeddi Hysbysiad Statudol.
Mae'r cynnig ynglŷn â'r canlynol:
- Adleoli Ysgol Y Lawnt ac Ysgol Gynradd Rhymni Uchaf
Bellach, mae gan unrhyw un sy'n dymuno gwrthwynebu'r cynnig trefniadaeth ysgolion hwn gyfle i wneud hynny. Er mwyn i wrthwynebiadau gael eu hystyried yn wrthwynebiadau statudol, rhaid eu cyflwyno nhw'n ysgrifenedig neu drwy e-bost, a rhaid iddyn nhw ddod i law cyn diwedd y cyfnod gwrthwynebu 28 diwrnod o hyd, sy'n dod i ben ar 5 Chwefror 2024.
Dylai gwrthwynebiadau trwy e-bost gael eu hanfon i: YsgolionYr21ainGanrif@caerffili.gov.uk
Dylai gwrthwynebiadau ysgrifenedig gael eu hanfon i: Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, Ar gyfer sylw Tîm Cymunedau Dysgu Cynaliadwy, Cyfadran Addysg a Gwasanaethau Corfforaethol, Tŷ Penallta, Parc Tredomen, Ystrad Mynach CF82 7PG
Yr argymhelliad yw troi at yr wybodaeth gefndir sydd wedi'i chynnwys yn y Ddogfen Ymgynghori a'r Adroddiadau Ymgynghori cyn cyflwyno ymateb.
Mae'r manylion llawn a'r holl ddogfennau perthnasol ynglŷn â'r cynnig ar gael yn: https://conversation.caerphilly.gov.uk/ysgol-y-lawnt-and-upper-rhymney-primary
Gellir hefyd gofyn am y wybodaeth mewn fformatau ac ieithoedd eraill, yn ogystal ag ar ffurf copi caled. Cysylltwch â ni ar 01443 864817 i drefnu hyn.
Cofion,
Tîm Cymunedau Dysgu Cynaliadwy- Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili