Dweud eich dweud ar gyfnewidfa Caerffili arfaethedig
Mae'r ymgynghoriad hwn bellach wedi cau.
Teitl
|
Dweud eich dweud ar gyfnewidfa Caerffili arfaethedig
|
Dyddiad agor
|
28/09/2022
|
Dyddiad cau
|
26/10/2022
|
Trosolwg
|
Fel rhan o'r cynlluniau uchelgeisiol i drawsnewid tref Caerffili, rydyn ni'n gofyn am eich barn chi am y gyfnewidfa drafnidiaeth arfaethedig. Mae gorsaf drenau Caerffili ar fin cael ei huwchraddio yn gyfnewidfa trafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol newydd, yn amodol ar sicrhau cyllid. Mae disgwyl i'r gyfnewidfa drawsnewid y ffordd y mae pobl yn teithio i Gaerffili ac oddi yno. Bydd yn cysylltu pobl yn ddiymdrech â threnau, bysiau, tacsis ac opsiynau teithio llesol.
|
Pam ydyn ni’n ymgynghori?
|
Rydyn ni am i farn y gymuned chwarae rhan hanfodol yn nyluniad a gweithrediad y safle, gan sicrhau bod yr holl anghenion yn cael eu diwallu.
|
Dulliau i rannu safbwyntiau
|
I gwblhau'r arolwg neu i ddarganfod rhagor, ewch i https://caerphillyinterchange.commonplace.is/
Fel rhan o'r broses ymgynghori, bydd nifer o sesiynau ymgysylltu i roi cymorth i gwblhau'r arolwg. Bydd staff ar gael:
- Dydd Gwener 30 Medi – Gorsaf Fysiau – 8.30-10.00am
- Dydd Llun 3 Hydref – Llyfrgell – 11.00am – 12.30pm
- Dydd Iau 6 Hydref – Coffi Vista – 1.00 – 2.30pm
- Dydd Mercher 12 Hydref – Gorsaf Fysiau – 3.00 – 4.30pm
- Dydd Gwener 14 Hydref – Llyfrgell – 9.30 -11.00am
- Dydd Mercher 19 Hydref – Coffi Vista – 2.00-3.30pm
Ar gyfer preswylwyr sydd ag unrhyw ofynion penodol megis mynediad, dolen glyw, angen cyfleusterau cyfieithu neu sy’n dymuno defnyddio’r Gymraeg yn y digwyddiad, cysylltwch â ni ar 07933174352 neu ymgynghori@caerffili.gov.uk.
|