Llythyr Hysbysiad Adroddiad Ymgynghori
Annwyl Ymgynghorai,
Yn unol â gofynion Cod Trefniadaeth Ysgolion 2018, rydym yn ysgrifennu i'ch hysbysu ynghylch cyhoeddi Adroddiad Ymgynghori.
Rydym yn cynnig gwneud y canlynol:
- Cau Ysgol Fabanod Cwm Glas
Mae disgyblion Ysgol Fabanod Cwm Glas ar hyn o bryd yn pontio i Ysgol Coed Y Brain ar gyfer Cyfnod Allweddol 2. Mae'r cynnig yn ceisio pontio'r disgyblion Cyfnod Sylfaen er mwyn sicrhau darpariaeth ysgol gynradd gynhwysol i bob oedran o fis Medi 2024. Bydd hyn yn arwain at gau Ysgol Fabanod Cwm Glas.
Ceir manylion llawn am y cynnig yn:
https://trafodaeth.caerphilly.gov.uk/fabanod-cwm-glas
Mae'r Adroddiad Ymgynghori ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg. Gellir hefyd gofyn am y wybodaeth mewn fformatau ac ieithoedd eraill, yn ogystal ag ar ffurf copi caled. Cysylltwch â ni ar 01443 864817 i drefnu hyn.
Cofion
Tîm Cymunedau Dysgu Cynaliadwy, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili