Dechrau busnes
Mae rhedeg busnes yn gofyn am amrywiaeth o sgiliau gan gynnwys rheolaeth ariannol, gallu trefniadol, gwybodaeth farchnata ac ymwybyddiaeth o faterion cyfreithiol ac iechyd a diogelwch.
Ychydig iawn o bobl sy’n cychwyn mewn busnes sydd yn berchen ar y sgiliau hyn i gyd i ddechrau. Gallem helpu i ddatblygu yr arbenigedd yr ydych ei angen i lwyddo.
Mae'r Tîm Adnewyddu Menter Busnes yn darparu ystod o gefnogaeth i'ch helpu i ddechrau eich busnes a chymorth bwysig tra bod y busnes yn tyfu.
Ar gyfer trafodaeth gychwynnol am yr hyn y gallwn ei gynnig i'ch busnes, cysylltwch â'r Tîm Adnewyddu Menter Busnes.
Rhoi cynnig ar eich busnes
Os ydych yn byw yn y bwrdeistref sirol, gallwch brofi eich syniad busnes ym Margod yn siop Blas ar Fenter ar Heol Hanbury.
Mae Blas ar Fenter yn eich galluogi i roi cynnig ar eich syniadau o fewn amgylchedd risg isel, gan helpu i ddatblygu amrywiaeth o sgiliau newydd a hefyd yn ennill cysylltiadau newydd a gwerthfawr, a allai helpu i roi dechrau da i'ch busnes. Pan fyddwch yn barod i symud ymlaen, mae ystod o eiddo sy'n addas ar gyfer pob angen.
I gael gwybod mwy ffoniwch 01685 377141 neu anfonwch e-bost tasteofenterprise@centreforbusiness.co.uk. Gallwch hefyd ymweld â'u gwefan yn www.tasteofenterprise.co.uk neu www.centreforbusiness.co.uk.
Cyngor a chefnogaeth Llywodraeth Cymru
Cefnogaeth Llywodraeth Cymru
Prynu busnes neu fasnachfraint
Cychwyn
Cyn i chi ddechrau
Syniad busnes
Os oes angen cymorth pellach, ffoniwch Llinell Gymorth Busnes Cymru ar 03000 6 03000. Ar gael rhwng 8am a 6pm, ddydd Llun i ddydd Gwener, ar gau ar wyliau'r banc.