Trwydded tatŵio, tyllu ac electrolysis
Rhaid i unrhyw un sy’n cyflawni gweithgareddau tyllu croen (aciwbigo, tatŵio, electrolysis, tyllu cosmetig neu liwio croen yn lled-barhaol) gael ei gofrestru gyda’r cyngor o dan Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982 fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Llywodraeth Leol 2003.
Nod cofrestru’r gweithgareddau tyllu croen hyn yw diogelu’r cyhoedd rhag trosglwyddo firysau a gludir yn y gwaed megis HIV, Hepatitis B, Hepatitis C a heintiau eraill.
Mae gennym is-ddeddfau cymeradwy sy’n nodi’r safonau ar gyfer gweithredu mangreoedd tyllu croen mewn modd hylan. Rhaid i bobl sy’n tyllu croen gydymffurfio â’r is-ddeddfau hyn.
Is-ddeddfau – Aciwbigo, tatŵio, lliwio croen yn lled-barhaol, tyllu cosmetig ac electrolysis (PDF)
Amodau’r drwydded
Rhaid i berson sydd wedi’i gofrestru i gyflawni’r gweithgareddau tyllu croen hyn arddangos yn y fangre gopi o unrhyw dystysgrif a gyflwynwyd gennym, a chopi o’r is-ddeddfau os yw’n briodol.
Ffioedd
Mae’r cofrestriad yn cynnwys dwy elfen:
- y person sy’n tyllu croen
- y fangre lle mae’r tyllu croen yn digwydd
Cliciwch yma i weld rhestr lawn o’r ffioedd trwyddedau
Sut i wneud cais
Mae ffurflenni cais a manylion y broses gwneud cais ar gael i’w lawrlwytho isod:
Os ydych yn cyflwyno’ch cais trwy’r post neu yn bersonol, dylid postio neu ddod â’r ffurflenni wedi’u llenwi i’rAwdurdod Trwyddedu.
Gwneud cais ar lein
Gallwch wneud cais am eich trwydded bersonol ar lein.
Cais am drwydded i gyflawni gweithgareddau aciwbigo, tatŵio, tyllu a/neu electrolysis
Triniaethau Arbennig Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017