Cymeradwyaeth ar gyfer gwaith ar adeiladau sydd ar brydles gan y cyngor
Cyn i chi ymgymryd ag unrhyw waith ar adeiladau sydd ar brydles gan y cyngor, rhaid i chi gael caniatâd ysgrifenedig gan ein Rheolwr Ystadau ar gyfer unrhyw waith a fydd: -
- Yn addasu’r adeilad
- Yn amharu ar ei adeiladwaith
- Yn tarfu ar ei wasanaethau
Cyn i chi ymgymryd ag unrhyw waith, dylech lenwi a dychwelyd y ffurflen gais isod.
Cais i ymgymryd â gwaith (PDF)
Dylech ddychwelyd ffurflenni gorffenedig trwy’r e-bost neu’r post at:
Gwasanaethau Eiddo, Tŷ Penallta, Parc Tredomen, Ystrad Mynach, CF82 7PG. E-bost: eiddo@caerffili.gov.uk.
Er mwyn asesu unrhyw waith arfaethedig, bydd angen manylion llawn am y cynnig arnom, gan gynnwys dyluniadau a/neu ddatganiadau dull a manylion am bwy fydd yn rheoli ac yn cyflawni’r gwaith.
Dylech ganiatáu dwy wythnos waith i gael ateb cychwynnol.