Iechyd meddwl
Mae problemau iechyd meddwl yn gallu effeithio ar bobl ar unrhyw adeg yn eu bywydau ac mewn llawer o wahanol ffyrdd. Efallai y byddant yn wynebu problemau ymarferol, cymdeithasol ac emosiynol o ganlyniad i salwch meddwl neu straen emosiynol difrifol.
Mae ystyried gofyn am wasanaethau iechyd meddwl yn gallu bod yn anodd dros ben y tro cyntaf. Gyda phwy y dylech chi gysylltu? Beth fyddan nhw'n ei wneud? Faint o reolaeth fydd gennych chi? A yw’n debygol o weithio?
Os ydych yn teimlo eich bod yn colli arnoch eich hun yn emosiynol, neu’n poeni bod gennych broblem iechyd meddwl yna, yn y lle cyntaf, dylech gysylltu â’ch meddyg teulu.
Gall eich meddyg teulu:
- Siarad am eich problemau
- Ystyried ai rhywbeth corfforol sy'n achosi'r problemau
- Rhoi moddion i chi er mwyn trin eich iselder, gofidiau a chyflyrau eraill
- Gofyn i chi fynd i weld cwnselydd
- Eich anfon i ysbyty
- Eich cyfeirio at wasanaeth priodol
Gwasanaethau a ddarperir gan y Gwasanaethau Cymdeithasol
Fel arfer caiff pobl eu cyfeirio at y gwasanaethau cymdeithasol gan eu meddyg. Os oes gennych weithiwr cymdeithasol, y gweithiwr cymdeithasol fydd yn eich cyfeirio at y gwasanaeth.
Mae ein Timau Iechyd Meddwl Cymunedol yn cynnig cyngor, triniaeth, gofal a chymorth parhaus i helpu pobl â phroblemau iechyd meddwl i fyw yn eu cartrefi. Mae staff yn gweithio i nifer o asiantaethau, gan gynnwys nyrsys, therapyddion galwedigaethol, seiciatryddion ymgynghorol, seicolegwyr a gweithwyr cymorth.
Mae gwasanaethau arbenigol pellach ar gael yn ogystal:
Mae Gwasanaethau Iechyd Meddwl Gofal Sylfaenol yn cynnig:
- Asesiadau iechyd meddwl trylwyr i unigolion sydd wedi cael eu gweld yn gyntaf gan eu meddyg teulu, ond bod y meddyg teulu yn meddwl bod angen cynnal asesiad manylach; mewn rhai achosion, gall unigolion gael eu cyfeirio gan wasanaethau iechyd meddwl eilaidd;
- Triniaeth tymor byr, un ai’n unigol neu drwy waith grŵp. Gall y driniaeth hon gynnwys cwnsela, ystod o ymyriadau seicolegol gan gynnwys therapiau emosiynol ac ymddygiadol, rheoli straen, rheoli dicter ac addysg;
- gwybodaeth a chyngor i unigolion a’u gofalwyr ynghylch triniaeth a gofal, gan gynnwys y dewisiadau sydd ar gael iddynt, yn ogystal â'u cyfeirio at ffynonellau cymorth eraill (megis cymorth a ddarperir gan sefydliadau trydydd sector);
- cymorth a chyngor i feddygon teulu a gweithwyr iechyd eraill (megis nyrsys meddygfeydd) i’w galluogi i reoli a gofalu am bobl â phroblemau iechyd meddwl yn ddiogel;
- Cefnogi a chydlynu’r camau nesaf gyda gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd, os teimlir bod hynny’n briodol i’r unigolyn.
Anelir y gwasanaethau hyn at unigolion â phroblemau iechyd meddwl isel i gymedrol, neu sefydlog ond difrifol a hirhoedlog.
Mae’r Gwasanaeth Allgymorth Cadarn yn gweithio yn ddyfal â phobl sy’n wynebu problemau difrifol a chymhleth. Mae’r rhain yn bobl sy’n dueddol o ddatgysylltu â gwasanaethau a chael sawl pwl o anhwylder a'u derbyn i'r ysbyty o ganlyniad i hynny. Yn draddodiadol mae gwasanaethau iechyd meddwl wedi bod yn cael eu darparu mewn swyddfa neu leoliadau mewn ysbytai lle bydd y client yn dod i weld y gweithiwr iechyd meddwl proffesiynol ar adeg benodol a drefnwyd ymlaen llaw. Yn y maes allgymorth cadarn, y gweithiwr sydd yn mynd i weld y cleient yn ei amgylchedd ef neu hi – boed hynny yn y cartref, mewn caffi, parc neu yn y stryd - ble bynnag y mae ei angen fwyaf a mwyaf effeithiol.
Mae Gwasanaeth Fforensig Gwent yn cynnig cymorth i bobl sydd wedi bod mewn cysylltiad â’r system gyfreithiol o ganlyniad i’w problemau iechyd meddwl, ac sydd angen amgylchedd ddiogel fel unedau cleifion allanol arbenigol ac ysbytai diogel i’w galluogi i fanteisio ar ystod eang o driniaethau, therapiau a gofal i’w helpu i wella. Mae'r rhan fwyaf o'n defnyddwyr gwasanaeth dan reolaeth Deddf Iechyd Meddwl 1983 a 2007. Mae’r gwasanaeth carchardai, y gwasanaeth prawf a’r llysoedd yn cyfeirio pobl at y gwasanaeth hwn.
Mae’r Gwasanaethau Iechyd Meddwl i Bobl Hŷn yn darparu gwasanaethau arbenigol, megis gofal dementia, gwasanaethau preswyl a gofal byr a gofal dydd mewn cyfleusterau preswyl a gofal dydd ledled y fwrdeistref sirol.
Mae’r Gwasanaeth Cymorth Iechyd Meddwl Cymunedol yn gweithio gyda phobl sy’n gwella ar ôl cyfnod o salwch meddwl ac sydd angen cymorth i sicrhau canlyniadau cadarnhaol o ran gwella a chael cefnogaeth barhaus i gyflawni gweithgareddau bob dydd. Mae’r gwasanaeth yn gweithio gyda phobl sy’n gysylltiedig â’r Timau Iechyd Meddwl Cymunedol ar hyn o bryd neu sydd wedi cael eu cyfeirio at y gwasanaeth ar ôl cael eu gollwng o’r ysbyty â’r nod o'u helpu i wella.
Mae’r Gwasanaeth Asesiadau Iechyd Meddwl Proffesiynol Cymeradwy a Gynhelir yn Ystod y Dydd y Ddeddf Iechyd Meddwl yn cynnig cymorth i ddefnyddwyr gwasanaeth presennol y gwyddir eu bod mewn perygl o’u lladd neu eu niweidio eu hunain. Bydd y gwasanaeth yn asesu pobl y teimlir eu bod mewn perygl gan y Gwasanaeth Iechyd Meddwl Sylfaenol a bydd yn darparu gwasanaeth, gwybodaeth a chyngor priodol neu yn eu cyfeirio at wasanaethau eraill.
Caiff atgyfeiriadau i’r gwasanaeth iechyd meddwl eu cyfeirio at Bwynt Cyfeirio Canolog Integredig y Fwrdeistref sy’n cynnig cyngor a gwybodaeth. Gellir cysylltu â'r gwasanaeth drwy ffonio 01443 802673.
Sefydliadau ac asiantaethau sy’n cynnig cymorth
Llinell Gymorth CALL Cymru - Gwasanaeth gwrando a chymorth cyfrinachol i bobl yng Nghymru Ffôn: 0800 132 737
Gwefan llinell gymorth C.A.L.L.
Hafal · Elusen yng Nghymru ar gyfer pobl sydd â salwch iechyd meddwl difrifol
Ffôn: 01792 816600
E-bost: hafal@hafal.org
Gwefan Hafal
Gofalwyr Cymru Wales
Ffôn: 029 2081 1370
E-bost: info@carerswales.org
Gwefan Gofalwyr Cymru
Mind · Mae Mind yn cynnig llawer o wasanaethau gan gynnwys llinellau cymorth, canolfannau galw heibio, tai cymorth, cwnsela, cynllun cyfeillio, eiriolaeth, cynlluniau cyflogaeth a hyfforddiant.
Llinell wybodaeth: 0845 7660163
E-bost: contact@mind.org.uk
Gwefan Mind
Rethink · Cymorth a chyngor i bawb y mae salwch meddwl difrifol yn effeithio
Ymholiadau cyffredinol: 0845 456 0455
Gwasanaeth cynghori cenedlaethol: 020 7840 3188
E-bost: info@rethink.org
Gwefan Rethink
Sane - Mae Sane yn cynnig gwybodaeth, gofal mewn argyfwng a chymorth emosiynol.
Llinell gymorth: 0845 767 8000
E-bost: info@sane.org.uk
Gwefan Sane
No Panic - Cymorth i bobl sy’n dioddef pyliau o banig, ffobias, anhwylderau obsesiynol cymhellol ac anhwylderau cyffredinol yn ymwneud â gofidiau.
Llinell gymorth: 0808 808 0545
E-bost: ceo@nopanic.org.uk
Gwefan No Panic
Cruse Bereavement Care - Mae Cruse yn cynnig help i unrhyw un sydd wedi cael profedigaeth, gwasanaeth cwnsela, cynghori a chyhoeddiadau am ddim.
Ffôn: 020 8939 9530
Llinell gymorth 'O ddydd i ddydd’: 0844 477 9400
E-bost: helpline@cruse.org.uk
Llinell Gymorth i Bobl Ifanc: 0808 808 1677
E-bost: info@rd4u.org.uk
Gwefan Cruse Bereavement Care
Depression Alliance - Yr elusen hon yw’r brif elusen sy’n ymwneud ag iselder yn y DU ac mae ganddi rwydwaith o grwpiau hunan-gymorth.
Ffôn: 0845 123 2320
E-bost: information@depressionalliance.org
Gwefan Depression Alliance
Depression UK (D-UK) - Elusen hunangymorth sy’n annog unigolion y mae iselder yn effeithio arnynt i helpu ei gilydd drwy wahanol gynlluniau a chylchlythyr yn cynnwys cyfraniadau gan aelodau.
E-bost: info@depressionuk.org
Gwefan Depression UK
National Self-Harm Network - Cymorth i bobl sy’n niweidio eu hunain drwy gynnig gwybodaeth, cysylltiadau a gweithdai.
E-bost: hnshncg@hotmail.co.uk
Gwefan National Self Harm Network