Beth mae'r data yn ei ddweud wrthym ni?
Mae’r graffiau ar y dudalen hon yn dangos hanes yr hyn sydd wedi bod yn digwydd ym myd addysg cyfrwng Cymraeg dros y pum mlynedd diwethaf.
Mae’r graffiau isod yn dangos nifer a chanran y plant mewn addysg cyfrwng Cymraeg o’r dosbarth derbyn i flwyddyn 11.
Mae nifer y plant mewn addysg cyfrwng Cymraeg wedi cynyddu o 3,689 yn 2016 i 4,015 yn 2023.
Mae canran y plant mewn addysg cyfrwng Cymraeg wedi cynyddu o 14.9% yn 2016 i 16.3% yn 2023.
Mae’r graffiau isod yn dangos nifer a chanran y plant mewn addysg cyfrwng Cymraeg mewn addysg feithrin
Mae nifer y plant mewn addysg feithrin wedi gostwng o 465 yn 2016 i 371 yn 2023.
Mae canran y plant mewn addysg feithrin wedi gostwng o 17.9% yn 2016 i 17.0% yn 2023.
Mae’r graffiau isod yn dangos nifer a chanran y plant mewn addysg cyfrwng Cymraeg ym Mlwyddyn 1.
Mae nifer y plant ym mlwyddyn 1 wedi gostwng o 381 yn 2016 i 333 yn 2023.
Mae canran y plant ym mlwyddyn 1 wedi gostwng o 17.9% yn 2016 i 17.2% yn 2023.
Mae’r graffiau isod yn dangos y gyfradd pontio rhwng blwyddyn 6 a blwyddyn 7 mewn addysg cyfrwng Cymraeg.
Mae nifer y dysgwyr sy’n symud o flwyddyn 6 mewn addysg gynradd cyfrwng Cymraeg i flwyddyn 7 mewn addysg uwchradd cyfrwng Cymraeg wedi cynyddu o 305 yn 2016 i 341 yn 2023.
Mae canran y dysgwyr sy’n symud o flwyddyn 6 mewn addysg gynradd cyfrwng Cymraeg i flwyddyn 7 mewn addysg uwchradd cyfrwng Cymraeg wedi amrywio, er bod gostyngiad bach yn 2023 i 95.3%.
Mae nifer y dysgwyr sy’n astudio TGAU mewn Cymraeg ail iaith wedi cynyddu o 975 yn 2018 i 1377 yn 2022.
Mae nifer y dysgwyr sy’n astudio TGAU mewn Cymraeg wedi cynyddu o 235 yn 2018 i 287 yn 2022.
Mae canran y dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg (7.7%) yn parhau i fod yn is na’r ganran mewn ysgolion cyfrwng Saesneg (12.8%).
Mae gweithlu’r ysgol sy'n gallu siarad Cymraeg wedi cynyddu dros y blynyddoedd diwethaf.
Mae’r graffiau isod yn dangos y cynnydd yn nifer yr athrawon cymwysedig sy’n addysgu Cymraeg fel ail iaith mewn ysgolion cynradd ac uwchradd.
Mae’r graffiau isod yn dangos y cynnydd yn nifer yr athrawon cymwysedig sy’n addysgu Cymraeg fel iaith gyntaf mewn ysgolion cynradd ac uwchradd.
Cynyddodd nifer yr athrawon cymwysedig sy’n addysgu Cymraeg mewn ysgolion cynradd o 85 yn 2019 i 120 yn 2023.
Mae angen defnyddio graff y ddwy ysgol uwchradd i ddangos y cynnydd yn nifer yr athrawon cymwysedig sy’n siarad Cymraeg o 102 yn 2019 i 144 yn 2023.
Mae yna bryder nad yw rhai o'r gweithlu sy'n gallu siarad Cymraeg yn dysgu Cymraeg.
Mae’r data’n dangos bod 69 o athrawon cymwysedig sy’n gallu addysgu Cymraeg ond nad ydyn nhw'n gwneud hynny. Mae hwn yn adnodd y mae angen i ni ei archwilio wrth i ni gynyddu nifer y lleoedd mewn addysg cyfrwng Cymraeg.