Dysgu Cymraeg

Mae'r Gymraeg yn boblogaidd yng Nghaerffili ac mae llawer o bobl yn siarad Cymraeg. Mae’n rhoi teimlad o berthyn i bobl ac mae rhieni eisiau i’w plant ei siarad hefyd.

Mae rhieni a gofalwyr yn dewis anfon eu plant i ysgolion cyfrwng Cymraeg. Maen nhw’n cael y profiad cyflawn o siarad Cymraeg na chafodd eu rhiant fel plant.

Mae amrywiaeth dda o lyfrau a gweithgareddau yn y Gymraeg yn ein llyfrgelloedd ledled y Fwrdeistref Sirol.

Rydych chi'n gallu dysgu Cymraeg gyda'ch plentyn drwy Cymraeg i Blant. Hefyd, rydych chi'n gallu dysgu Cymraeg gyda Dysgu Cymraeg Morgannwg / Gwent. Hefyd, rydych chi'n gallu dysgu Cymraeg drwy apiau rhad ac am ddim fel Duolingo a Say Something in Welsh.

Mae'r animeiddiad a'r llyfryn “Bod yn Ddwyieithog” yn egluro manteision darpariaeth cyfrwng Cymraeg.

Mae Rhieni dros Addysg Gymraeg (RhAG) yn elusen sy’n cynorthwyo rhieni a gofalwyr ar eu taith Addysg Cyfrwng Cymraeg.