Gwaith adeiladu heb awdurdod
Weithiau, mae gwaith adeiladu yn cael ei wneud heb gymeradwyaeth rheoliadau adeiladu. Gallai hyn arwain at gamau gorfodi gael eu cymryd a gallai beryglu gwerthu'r eiddo yn y dyfodol.
Mae gweithdrefn ar gael ble mae cais ôl-weithredol yn gallu cael ei wneud ar gyfer tystysgrif reoleiddio. Mae hyn yn cynnwys cyflwyno cais rheoleiddio. Nid yw cyflwyno cais yn gwarantu y bydd tystysgrif yn cael ei chyhoeddi. Efallai bydd angen agor peth o’r gwaith i fyny a’i arolygu i benderfynu os ydynt yn ddigonol ac efallai bydd angen gwaith adfer cyn y gellir cyhoeddi tystysgrif ar gyfer y gwaith.
Mae mwy o fanylion am gais rheoleiddio ar gael drwy gysylltu â ni.