Oes angen cymeradwyaeth rheoliadau adeiladu arnaf?
Bydd angen cymeradwyaeth rheoliadau adeiladu ar gyfer y rhan fwyaf o waith adeiladu. Mae’r gofyniad hwn yn wahanol i ganiatâd cynllunio, a rhaid gwneud cais amdano ar wahân.
Mae’r rheoliadau’n gymhleth er mwyn sicrhau y caiff yr adeiladau eu codi yn unol â’r safonauy cytunwyd arnynt, ond mae’r rheoliadau yn hanfodol er mwyn hybu hygyrchedd, iechyd a diogelwch ac effeithlonrwydd ynni yn y cartref.
Gwaith adeiladu sydd angen cymeradwyaeth
Mae angen cymeradwyaeth ar gyfer llawer o brojectau poblogaidd i wella cartrefi, gan gynnwys addasiadau, estyniadau ac insiwleiddio waliau ceudod.
Mae’r mathau canlynol o brojectau yn destun rheoliadau:
- Newidiadau strwythurol i’r adeilad
- Y rhan fwyaf o estyniadau i adeilad, gan gynnwys addasu’r atig a'r garej, ond heb gynnwys portshys ac ystafelloedd gwydr (gweler yr eithriadau isod)
- Newidiadau strwythurol, megis symud waliau cynhaliol ymaith
- Wrth osod ffenestri newydd gan ddefnyddio adeiladwr neu gwmni ffenestri nad yw wedi’i gofrestru gyda’r Cynlluniau Personau Cymwys perthnasol.
- Gosod systemau gwresogi, dŵr poeth ac aerdymheru
- Gosod offer ystafell ymolchi ychwanegol
- Gwaith gosod trydanol domestig
- Newidiadau i systemau draenio
- Ailosod to (os yw hynny’n cynnwys mwy na 25% o arwynebedd y to)
- Gosod ffenestri, drysau neu ffenestri to newydd
- Tanategu adeilad
- Adnewyddu elfen thermol e.e. waliau, lloriau a thoi
- Newid statws ynni adeilad
- Newid defnydd adeilad e.e. addasu ysgubor
Esemptiadau
Mae’r rheoliadau adeiladu yn eithrio rhai adeiladau o’r angen i wneud cais. Mae’r adeiladau hyn yn cynnwys y canlynol:
- Adeiladau sengl sy’n cynnwys peirianwaith neu offer nad yw pobl yn ymweld â nhw heblaw ar gyfer gwneud gwaith cynnal a chadw neu drwsio.
- Rhai mathau penodol o dai gwydr ac adeiladau amaethyddol.
- Adeiladau sengl bychain llai na 30 metr sgwâr o faint nad ydynt yn cynnwys unrhyw lety â gwely.
- Estyniadau i adeilad drwy ychwanegu ato ar y llawr daear (h.y. ar ei seiliau ei hun) fel a ganlyn: - Ystafelloedd gwydr, Canopïau, Portshys, Llwybrau dan Do a Chysgodfeydd Ceir, oll gydag arwynebedd llawr nad yw’n fwy na 30 metr sgwâr.
- Adeiladau dros dro nas bwriedir iddynt sefyll yn y fan honno am fwy na 28 diwrnod.
Ydych chi'n adeiladu draenio cynaliadwy
O 7 Ionawr 2019, bydd yn ofynnol i holl ddatblygiadau newydd o fwy nag un tŷ, neu ble mae ardal yr adeiladu yn 100m2 neu'n fwy, gael draenio cynaliadwy er mwyn rheoli dŵr wyneb ar y safle.
Mae cymeradwyaeth y Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy yn wahanol i ganiatâd cynllunio, ac ar wahân iddo, a rhaid ceisio'r ddau cyn dechrau unrhyw waith adeiladu.
Am ragor o wybodaeth, ewch i'n tudalennau Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy
Ewch i wefan y porth cynllunio ‘A oes angen caniatâd arnoch’ ar gyfer canllawiau ac enghreifftiau o achosion lle gallai fod angen rheoliadau adeiladu.