Rheoliadau adeiladu

Nod rheoliadau adeiladu yw sicrhau bod modd byw ym mhob adeilad, yn ddiogel, yn sych ac yn gynnes wrth wneud gwaith adeiladu neu wrth wneud newidiadau i’ch eiddo.

Bydd sicrhau cymeradwyaeth ar gyfer gwaith adeiladu yn sicrhau bod y gwaith yn ddiogel ac yn cydymffurfio â safonau rheoliadau adeiladu, yn ogystal â’ch gwarchod chi rhag adeiladwyr twyllodrus. Dylech ofyn am gyngor ar reoli adeiladu cyn dechrau unrhyw broject adeiladu.

Mae’r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch am reoliadau adeiladu, gan gynnwys y dogfennau cymeradwy, ar gael ar y Porth Cynllunio.

Ydych chi'n adeiladu draenio cynaliadwy 

Mae Systemau Draenio Cynaliadwy yn fath o ddraenio sydd wedi'i gynllunio i reoli dŵr ffo arwynebol mewn ffordd fwy cynaliadwy heb orfod defnyddio pibellau na thanciau.
Darllenwch am Systemau Draenio Cynaliadwy 
 

Cysylltwch â ni