Archwilio gwaith adeiladu

Rydym yn archwilio gwaith adeiladu yn rheolaidd wrth iddo fynd yn ei flaen er mwyn sicrhau bod y gwaith yn cydymffurfio â’r rheoliadau adeiladu.

Camau o'r gwaith y mae’n ofynnol eu harchwilio

Ceir naw cam posibl o waith adeiladu y mae’n ofynnol eu harchwilio (er na fydd pob un o’r naw yn berthnasol i bob darn o waith).

  1. Dechrau'r gwaith 

  2. Cloddio’r seiliau cyn gosod concrid

  3. Ar ôl gosod y seiliau

  4. Haen goncrid cyn gosod slab y llawr 

  5. Draeniau 

  6. Adeiladwaith (lloriau/toeon/trawstiau)

  7. Inswleiddio 

  8. Meddiannu (yn achos eiddo newydd)

  9. Cwblhau'r prosiect

Mae’n bosibl y bydd eich swyddog rheoli adeiladu yn cynnal archwiliadau eraill yn ogystal â’r rhai uchod. Bydd angen cynnal archwiliadau penodol ychwanegol ar gyfer rhai mathau o waith, megis atgyfnerthu strwythurau concrid a gwaith i ddiogelu strwythur rhag tân. Yn ogystal, gall archwilydd alw yn ddirybudd ar adegau eraill i archwilio’r gwaith sy’n mynd rhagddo.

Trefnu archwiliad

Cyn trefnu archwiliad, bydd rhaid i chi gyflwyno cais dilys a thalu'r ffi ofynnol.

Cais am archwilio gwaith adeiladu>

Sylwch, ni fydd y ffurflen hon yn gweithio o fewn Internet Explorer. Defnyddiwch borwr mwy modern fel Edge, Chrome neu Safari

Bydd y ddolen hon yn cymryd chi i Cyswllt Caerffili.  Cofrestrwch nawr neu mewngofnodwch i adrodd, ymgeisio neu i dalu am wasanaethau.  Os nad ydych am greu cyfrif, cliciwch ar ‘Parhau heb gofrestru’. Edrychwch yn eich ffolder e-bost sothach/sbam am neges actifadu cyfrif a negeseuon hysbysu oddi wrthym!

I wneud cais am gynnal archwiliad ar yr un diwrnod, rhaid cyflwyno'r cais erbyn 09:30 ar y diwrnod hwnnw.

Cysylltwch â ni