Banciau Bwyd
Os ydych yn ei chael hi’n anodd bwydo eich teulu, gall eich Banc Bwyd lleol ddarparu bwyd argyfwng a chymorth mewn argyfwng.
Banciau Bwyd Trussell Trust
Mae’r Trussell Trust yn rhedeg un o'r rhwydweithiau mwyaf o fanciau bwyd yn y wlad a gall ddarparu o leiaf dri diwrnod o fwyd argyfwng a chymorth i bobl mewn argyfwng.
Gallwch gael taleb gan eich meddyg, ymwelydd iechyd, gweithiwr cymdeithasol neu'ch Canolfan Cyngor ar Bopeth a sefydliadau elusen lleol.
Cymerwch eich taleb i’ch Banc Bwyd Trussell Trust lleol i dderbyn eich bwyd argyfwng.