Dysgu a datblygu staff
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn ymrwymedig i sicrhau fod gan ei gyflogeion y sgiliau, y wybodaeth a'r profiad cywir i ymgymryd â'u rolau a'u bod yn datblygu i wireddu eu potensial.
Mae amrywiaeth o gyfleoedd ar gyfer dysgu a datblygu ar gael yn y gweithle. Mae pob cyflogai newydd yn ymgymryd â rhaglen sefydlu i'w helpu i setlo a deall mwy am y cyngor.
Mae'r cyngor yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau dysgu a datblygu mewnol i'w gyflogeion yn ogystal â hyfforddiant sy'n benodol i'r swydd. Mae cyrsiau yn cynnwys:
- Sgiliau pendantrwydd
- Meddwl yn greadigol a datrys problemau
- Sgiliau dylanwadu a negodi
- Sgiliau gwrando a chwestiynu
- Rheoli gwrthdaro
- Ysgogi eraill er mwyn gwella perfformiad
- Cynnal cyfarfodydd effeithiol
- Ymwybyddiaeth o straen
Drwy gydol eich bywyd gwaith gyda'r cyngor, cewch gyfle i drafod eich gwaith, eich anghenion a'ch dyheadau yn rheolaidd gyda'ch rheolwr llinell.
At hynny, mae'r Adolygiad Datblygu Perfformiad blynyddol yn gyfle i gyflogeion drafod amcanion gwaith a datblygiad personol yn fwy manwl ac yn gyfle i nodi unrhyw anghenion dysgu a datblygu a chynllunio ar eu cyfer.