Trosglwyddo o fewn Cartrefi Caerffili

O dan Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016, mae trosglwyddo Contract Meddiannaeth Diogel yn ymwneud â’r broses gyfreithiol o drosglwyddo contract o un person i’r llall. Mae trosglwyddiad yn digwydd pan fydd deiliad contract yn trosglwyddo ei hawliau a’i rwymedigaethau yn y contract (gan gynnwys yr hawliau i fyw yno) i ddeiliad contract newydd.

Mae'r broses drosglwyddo yn gofyn am gais ysgrifenedig gan ddeiliad y contract (tenant), mae'n cynnwys dogfennaeth ffurfiol a chymeradwyaeth gan Cartrefi Caerffili fel eu Landlord Cymunedol. 

Gall tenant Cartrefi Caerffili wneud cais i drosglwyddo ei Gontract Meddiannaeth Diogel i rywun a fyddai’n olynydd posibl neu i denant Landlord Cymunedol. Mae Landlord Cymunedol naill ai yn awdurdod lleol neu yn gymdeithas tai. 

Gall hyn ddigwydd mewn sawl sefyllfa.

  • Gall y tenant wneud cais i drosglwyddo ei fuddiant cyfan yn yr eiddo i berson arall a fyddai'n gymwys i olynu. Os bydd y cais yn cael ei gymeradwyo, bydd y tenant newydd yn mabwysiadu holl hawliau a rhwymedigaethau'r Contract Meddiannaeth Diogel gwreiddiol. 
  • Gall y tenant wneud cais i drosglwyddo ei fuddiant cyfan yn yr eiddo i ddeiliad contract gyda naill ai Cartrefi Caerffili neu Landlord Cymunedol arall. Os bydd y cais yn cael ei gymeradwyo, bydd y tenant newydd yn mabwysiadu holl hawliau a rhwymedigaethau'r Contract Meddiannaeth Diogel gwreiddiol. 
  • Gall y tenant ofyn i gyfnewid ei Gontract Meddiannaeth Diogel gyda thenant landlord cymunedol. Os bydd y cais yn cael ei gymeradwyo, bydden nhw'n cyfnewid cartrefi a bydd y tenant newydd yn mabwysiadu holl hawliau a rhwymedigaethau Contract Meddiannaeth Diogel y tenant blaenorol.