Biniau compost
Gallwch chi brynu biniau compost o ganolfanau garddio, siopau DIY a manwerthwyr ar-lein.
Mae tua 30% o gynnwys biniau gwastraff cyffredinol yn cynnwys gwastraff bwyd.
Mae tua 5% o gynnwys biniau gwastraff cyffredinol yn cynnwys gwastraff o'r ardd.
Mae'r rhain yn ddeunyddiau organig sy'n gallu cael eu troi'n gompost ar gyfer eich gardd.
Beth alla i ei gompostio?
Dyma ychydig o wybodaeth am yr hyn y gallwch chi ei ychwanegu at eich bin i wneud y compost gorau.
Anelwch at gydbwysedd o 50% sy’n wyrdd a 50% sy’n frown yn eich bin compost i gael y cymysgedd cywir.
Canllaw i sut i gompostio
Manteision compostio gartref
Mae compostio yn dargyfeirio gwastraff organig o safleoedd tirlenwi. Mae hyn yn helpu i leihau creu nwyon tŷ gwydr fel methan.
Mae compost yn faethlon a gall ddarparu cyflyrydd pridd ardderchog ar gyfer eich gardd. Mae'n rhad ac am ddim ac yn wrtaith cyflawn ar gyfer pob planhigyn a llysiau.
Mae'n darparu bwyd planhigion sylfaenol a chyflyrydd pridd o'r enw hwmws, ac felly’n gwella ffrwythlondeb a strwythur pridd.
Gall compost gael ei ddefnyddio yn lle gwrtaith niweidiol a mawn.