Beth yw Awtistiaeth

Mae awtistiaeth yn ffordd wahanol o brofi'r byd. Efallai y bydd person ag Awtistiaeth yn prosesu gwybodaeth am ei amgylchoedd yn wahanol i eraill. Gall hyn olygu y gallai plentyn/oedolyn gysylltu â’r byd a’r bobl o’u cwmpas mewn modd gwahanol.

Sbectrwm yw awtistiaeth, sy'n golygu y gall pawb ei brofi'n wahanol. Fodd bynnag, gall y mwyafrif o unigolion awtistig wynebu heriau yn y meysydd cyfathrebu, rhyngweithio cymdeithasol, dychymyg (hyblygrwydd o ran meddwl) a phrosesu synhwyraidd.

AWTISTIAETH CYMRU