Addysg

Am wybodaeth, cyngor a chymorth i helpu addysg eich plentyn siaradwch â'r ysgol a rhannu eich pryderon. Gall ysgolion roi cymorth i'r rhan fwyaf o blant a phobl ifanc.

Am ragor o wybodaeth, ewch i dudalen we Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY). Yma,  mae 'Canllaw i rieni a phlant am ADY’, yn ogystal â dolen i’r Hwb.

Yng Nghaerffili mae gennym ni hefyd fynediad at y Gwasanaeth Sbectrwm Awtistiaeth Caerffili (CASS), prosiect unigryw sy'n cyfuno'r athro allgymorth / cynorthwyydd cymorth dysgu mwy 'traddodiadol', gyda chymorth cartref a chyfathrebu i blant, pobl ifanc a'u teuluoedd.

Mae SNAP Cymru hefyd yn cynnig gwybodaeth, cyngor a chymorth annibynnol am ddim i helpu i gael yr addysg gywir i blant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol.