Adnoddau Cymunedol

The Autism Directory

Mae The Autism Directory yn wefan sy'n ymroddedig i helpu teuluoedd ac unigolion i ddod o hyd i adnoddau sy'n gysylltiedig ag awtistiaeth yn eu hardal leol a thu hwnt. 

Sefydliadau ag Ymwybyddiaeth am Awtistiaeth

Yma, fe gewch chi gyfeiriadur o sefydliadau sydd wedi cwblhau'r cynllun Ymwybyddiaeth am Awtistiaeth ym Mwrdeistref Sirol Caerffili. Er enghraifft, archfarchnadoedd lleol, ysgolion a chanolfannau chwarae. 

DEWIS Cymru

Gwefan ddefnyddiol arall yw DEWIS Cymru, gwefan i'ch cynorthwyo chi i ddod o hyd i weithgareddau, gwasanaethau a sefydliadau lleol a chenedlaethol.

Cymorth i ddod o hyd i waith

Os ydych chi'n chwilio am gymorth cyflogaeth, ewch i dudalen we Tîm Cymorth Cyflogaeth Caerffili am ragor o wybodaeth.

Cymorth Tai

Mae modd dod o hyd i ragor o wybodaeth am Gymorth Tai ar ein tudalen we Tai pwrpasol.

Gall Tîm Cefnogi Pobl hefyd gynnig cymorth os ydych chi'n cael trafferth cynnal eich cartref, mewn perygl o golli eich swydd, angen symud neu angen help gyda'ch arian neu unrhyw fath o ddyled.

Polisïau awtistiaeth cenedlaethol

Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod canllawiau a dyletswyddau ar gyfer cynghorau lleol. Mae'r rhain yn cael effaith ar wasanaethau cymorth lleol.

Dyma rai dolenni sydd hefyd yn gallu cynnig cyngor a chymorth i chi:

Efallai y byddwch chi hefyd yn dod o hyd i’r cymorth sydd ei angen arnoch chi trwy gysylltu â:

Hawliau ac eiriolaeth

Am ragor o wybodaeth am eiriolaeth i blant a phobl ifanc, neu fel rhiant/gofalwr rydych chi'n teimlo bod angen cymorth eiriolaeth.

Eiriolaeth plant a phobl ifanc

Mae hwn yn wasanaeth eiriolaeth cyfrinachol, annibynnol sy'n seiliedig ar faterion. Mae'n cynorthwyo plant a phobl ifanc trwy eu helpu nhw i leisio’u barn.

Mae’r prosiect yn gweithio ar sail 1:1 er mwyn galluogi plentyn, neu berson ifanc, i leisio eu barn, dymuniadau a theimladau. Gall hyn eu helpu i stopio, dechrau neu newid rhywbeth.

Eiriolaeth rhieni

Mae hwn yn wasanaeth cyfrinachol, annibynnol i rieni. Mae'n helpu rhieni i gael llais. Mae’r prosiect yn gweithio ar sail 1:1.

Gall y gwasanaeth helpu rhieni ddatrys amrywiaeth o faterion. Gall hyn gynnwys gwneud newidiadau, ymgysylltu â gwasanaethau cymorth a llywio systemau.

Mae yna hefyd sefydliadau/elusennau lleol a allai helpu pobl awtistig i gael llais, ac i fynegi eu barn, eu dymuniadau a’u teimladau.

Gall dolenni defnyddiol eraill hefyd gynnwys:

Efallai y byddwch chi hefyd yn clywed y termau canlynol: