Oriau agor y swyddfa gofrestru
Mae ein swyddfa ym mhencadlys y cyngor sef Tŷ Penallta, Parc Tredomen, Ystrad Mynach. CF82 7PG.
Ar ôl cyrraedd Tŷ Penallta dilynwch yr arwyddion maes parcio i ymwelwyr. Ewch i mewn i’r adeilad drwy’r brif fynedfa yn y tu blaen. Mae derbynfa'r swyddfa gofrestru ar ochr dde'r brif dderbynfa.
Pe baech yn dod yno i fynychu seremoni mae gennym fynedfa ar wahân ar yr ochr dde i’r prif adeilad, mae maes parcio pwrpasol yno hefyd ar eich cyfer.
Trefnu ymweliadau ac oriau agor
I gofrestru genedigaeth, marwolaeth, priodas neu bartneriaeth sifil bydd angen i chi drefnu apwyntiad.
Dyma'r oriau’r swyddfa:
- Dydd Llun, 9.00am tan 4.30pm
- Dydd Mawrth, 9.00am tan 4.30pm
- Dydd Iau, 9.00am tan 4.30pm
- Dydd Gwener, 9.00am tan 4.00pm
- Dydd Sadwrn, trwy apwyntiad yn unig
- Dydd Sul, trwy apwyntiad yn unig
Cysylltwch â ni i drefnu apwyntiad.
Mewn achos o argyfwng ynglŷn â chofrestru genedigaeth, marwolaeth, priodas neu bartneriaeth sifil y tu allan i’r oriau agor hyn, yna cysylltwch â 07771 886895.