ID pleidleisiwr
O 4 Mai 2023, bydd angen i bleidleiswyr yng Nghymru ddangos cerdyn/dogfen adnabod gyda llun i bleidleisio mewn gorsafoedd pleidleisio mewn rhai etholiadau. Bydd hyn yn berthnasol i:
- Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu
- Is-etholiadau Seneddol y DU
- Deisebau adalw
O fis Hydref 2023, fe fydd hefyd yn berthnasol i Etholiadau Cyffredinol y DU.
Ni fydd angen i bleidleiswyr yng Nghymru ddangos cerdyn/dogfen adnabod gyda llun i bleidleisio yng ngorsafoedd pleidleisio etholiadau’r Senedd nac etholiadau cynghorau lleol.
Ymhlith y dulliau adnabod sy’n cael eu derbyn mae’r canlynol:
- Pasbort y Deyrnas Unedig, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd neu’r Gymanwlad;
- Trwydded yrru’r Deyrnas Unedig, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd neu’r Gymanwlad;
- Rhai cardiau teithio rhatach megis pàs bws person hŷn neu gerdyn Oyster 60+.
Bydd modd i bleidleiswyr ddefnyddio dogfen adnabod nad yw’n gyfredol os oes dal modd eu hadnabod o’u llun.
Mae rhestr lawn o ffurfiau derbyniol o ddulliau adnabod gyda llun ar gael yma: Mathau o ID ffotograffig a dderbynnir | Electoral Commission
Os nad oes gennych chi gerdyn adnabod sy’n cael ei dderbyn
Cyflwynwch gais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr:
- os nad oes gennych chi gerdyn/dogfen adnabod gyda llun cydnabyddedig
- os nad ydych chi bellach yn edrych fel y llun ar eich cerdyn/dogfen adnabod
- os yw’r enw ar eich cerdyn/dogfen adnabod gyda llun yn wahanol i’ch enw ar y gofrestr etholwyr
Mae’n rhaid i chi gofrestru i bleidleisio cyn gwneud cais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr.