Enwi strydoedd a rhifo
Rydyn ni’n gyfrifol am enwi pob stryd ac am rifo neu enwi eiddo o fewn Bwrdeistref Sirol Caerffili.
Mae gennym ni gyfrifoldeb statudol i sicrhau bod unrhyw enwau newydd neu ddiwygiedig strydoedd ac eiddo ac/neu rifau eiddo newydd neu ddiwygiedig yn cael eu dyrannu'n rhesymegol ac mewn modd cyson.
Nid oes gan y Post Brenhinol unrhyw bŵer statudol i enwi strydoedd, enwi na rhifo eiddo neu ailenwi neu ail-rifo eiddo; fodd bynnag, yr unig ddyletswydd sydd ganddo yw cyhoeddi neu ddiwygio codau post unwaith y bydd y Cyngor wedi cadarnhau manylion y cyfeiriad.
Mae rheoleiddio rhoi cyfeiriadau ar eiddo o fewn y Fwrdeistref Sirol yn sicrhau bod cysondeb a chywirdeb yn cael ei gynnal ac mae'n helpu gyda darparu gwasanaethau ac - yn bwysicaf oll - yn sicrhau y gall y gwasanaethau brys ddod o hyd i'r cyfeiriad.
Datblygiadau Newydd
Noder: Os ydych chi'n cyflawni cynllun sy'n gofyn am enwi strydoedd, ceisiwch seilio unrhyw enwau ar enwau hanesyddol yr ardal lle mae'r gwaith datblygu'n digwydd.
Mae Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru wedi lansio gwasanaeth newydd ar y we sydd â'r nod o ddiogelu enwau lleoedd hanesyddol Cymru, a thynnu sylw at eu pwysigrwydd. Ewch i:
https://enwaulleoeddhanesyddol.cbhc.gov.uk
Gwneud cais i ychwanegu / ailenwi / cael gwared ar enw i eiddo â rhif presennol
Os hoffech chi ailenwi neu ychwanegu enw at eich eiddo yn swyddogol, cost y gwasanaeth hwn yw £55.13 y cais.
Er mwyn sicrhau bod y broses yn mynd rhagddi mor effeithlon â phosibl, bydd angen i chi ddarparu'r wybodaeth ganlynol:
- Ffurflen gais wedi'i llenwi, ei llofnodi a'i dyddio
- Cynllun y lleoliad
- Y ffi gywir
- Caniatâd gofynnol y perchennog os nad chi yw'r perchennog.
Dadlwythwch y ffurflen gais PDF y gellir ei golygu ac anfon y ffurflen i: RhTELl@caerffili.gov.uk
Os ydych chi’n aros i gais cynllunio gael ei benderfynu ar gyfer yr eiddo/safle ar hyn o bryd, cysylltwch â RhTELl@caerffili.gov.uk am gyngor cyn cyflwyno’r ffurflen gais.
Ffurflen gais i ailenwi - ychwanegu enw at eiddo sy'n bodoli eisoes
Am fanylion ar sut i dalu, gweler y ffurflen gais.
Hysbysiad Preifatrwydd
Bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn prosesu'ch cais am ailenwi/ychwanegu enw at eich eiddo ac yn rhoi penderfyniad i chi ac unrhyw ddogfennau cysylltiedig eraill. Bydd eich enw a'ch manylion cyswllt yn cael eu cofnodi er mwyn rhoi gwybod i chi o'r penderfyniad ar eich cais ac at ddibenion ariannol, ond ni chânt eu rhannu ag eraill yn ystod y broses ymgynghori. Tasg gyhoeddus yw'r sail gyfreithiol ar gyfer prosesu'ch gwybodaeth a byddwn yn cadw'ch manylion am 7 mlynedd.
Byddwn ni'n ymgynghori â'r Post Brenhinol i sicrhau nad oes enwau tai tebyg yn cael eu defnyddio yn y cyffiniau. Pan wneir penderfyniad ar eich cais, bydd manylion y cyfeiriad a gadarnhawyd yn cael eu rhannu ag adrannau mewnol perthnasol y Cyngor.
Mae gennych chi nifer o hawliau mewn perthynas â'r wybodaeth, gan gynnwys yr hawl i gael gafael ar wybodaeth sydd gennym amdanoch chi a'r hawl i gwyno os ydych chi'n anhapus â'r ffordd y mae eich gwybodaeth yn cael ei phrosesu.
I gael rhagor o wybodaeth am sut rydyn ni'n prosesu'ch gwybodaeth a'ch hawliau, cliciwch Hysbysiad Preifatrwydd
I gael rhagor o wybodaeth am enwi strydoedd a rhifo, e-bostiwch RhTELl@caerffili.gov.uk.