Trwydded sgip
Os oes angen i sgipiau adeiladwyr gael eu gosod ar y briffordd, ffordd, palmant neu lain ymyl ffordd, mae angen trwydded. Mae hyn yn ofyniad yn Neddf Priffyrdd 1980. Mae gennym hawl i bennu amodau ynghylch lleoliad unrhyw sgipiau adeiladwyr.
Nid cyfrifoldeb y cwsmer (na’i gontractwr) yw gwneud cais am y drwydded hon. Cyfrifoldeb y gweithredydd sgipiau yw sicrhau y gwnaethpwyd cais am y drwydded a’i bod wedi cael ei rhoi.
Ni roddir trwyddedau o’r fath ond i weithredwyr sgipiau cofrestredig sydd â’r yswiriant atebolrwydd cyhoeddus gofynnol. Os oes arnoch angen sgip, cysylltwch â gweithredydd sgipiau sydd â’r cydsyniad angenrheidiol.
Amodau’r drwydded
Rheoliadau ar gyfer dodi sgip ar y briffordd
Gofynion o ran manylebau sgipiau
Sut i wneud cais
Gallwch wneud cais ar lein
Ar ôl i’ch cais ddod i law, byddwn yn eich hysbysu am y penderfyniad i roi’r drwydded naill ai dros y ffôn neu yn ysgrifenedig cyn pen dau ddiwrnod gwaith.
Ffioedd
Cliciwch yma i weld rhestr lawn o ffioedd trwyddedau
I gael mwy o wybodaeth am drwyddedau sgipiau, dylech gysylltu â ni.