Rhestr wirio archwiliad cyn-arolygiad
Dylai'r dogfennau a'r wybodaeth ganlynol gael eu darparu cyn yr arolygiad:
- Cynllun cyffredinol yr adeilad (neu ardal cadw'r anifeiliaid os nad yw'n safle 'siop') - yn dangos mynedfeydd/allanfeydd, lleoliad cewyll/tanciau (a'r hyn y bwriedir ei gadw ynddyn nhw), lleoliad yr offer tân, ardal ynysu, ardal cwarantîn, sinciau, oergelloedd/rhewgelloedd a man paratoi bwyd
- Cynllun llety da byw gan gynnwys y dimensiynau a’r rhywogaethau sy’n cael eu stocio a'r dwysedd stocio cadw uchaf ar gyfer pob un yn seiliedig ar y canllawiau rhywogaeth-benodol
- Rhestr stoc presennol
- Cofrestru fel rhan B adran 2.1 (Cofnodion prynu, gwerthu, manylion cyflenwyr, triniaeth filfeddygol ac ati)
- Polisïau hyfforddi
- Cofnodion hyfforddiant (yr holl staff gan gynnwys y deiliad trwydded)
- Tystysgrifau hyfforddi perthnasol
- Gweithdrefnau ysgrifenedig fel yr amlinellir yn rhan A adran 9 a 10 y canllawiau
- Trwyddedau/tystysgrifau confensiwn ar fasnach ryngwladol mewn rhywogaethau mewn perygl (os oes stoc)
- Tystysgrif drydanol