Grant Twristiaeth Cronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU
Cyflwyniad
Mae’r Grant Twristiaeth yn darparu cymorth ariannol wedi’i dargedu i fentrau twristiaeth newydd a phresennol ledled y Fwrdeistref Sirol i helpu busnesau bach a chanolig yng Nghymru i ail-lansio, datblygu, datgarboneiddio a thyfu i helpu sbarduno adferiad economaidd Cymru. Nod y Grant Twristiaeth yw cynorthwyo amrywiaeth o weithgareddau datblygu gyda ffocws ar helpu mentrau i gyflawni eu huchelgeisiau busnes hirdymor drwy allbynnau economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol mesuradwy a fydd yn ychwanegu gwerth at eu gweithrediadau drwy wella eu galluoedd cynhyrchu, gwasanaethu ac allbynnu.
Mae'r canllaw canlynol yn cynnwys enghreifftiau o'r math o waith a gweithgareddau a allai gael cymorth gan y Gronfa. Bydd pob cais yn cael ei asesu gan swyddogion fesul achos i benderfynu ar waith sy’n gymwys. Bydd ymgeiswyr yn gallu gwneud cais am gymorth tuag at weithgaredd cyfalaf a refeniw o dan “themâu” ariannu penodol. Gall eitemau cymwys gynnwys:
Datblygu Busnes (Refeniw)
Costau cymwys:
- Gwefannau a Gwefannau E-Fasnach
- Marchnata - costau untro
Datblygu Busnes (Cyfalaf)
Costau cymwys: (gan gynnwys adnewyddu a gwella eiddo ac offer cyfalaf)
- Wrth wneud cais am waith adeiladu, bydd gofyn i ymgeiswyr fod wedi ceisio cyngor ac, os oes angen, wedi gwneud cais am ganiatâd cynllunio/rheoliadau adeiladu perthnasol a bydd gofyn iddyn nhw ddarparu tystiolaeth o hyn gyda'u cais.
Adnewyddu eiddo
- Arwyddion
- Gwaith strwythurol
- Drysau a ffenestri newydd
- Goleuadau allanol
- Gwaith i'r to a'r simnai
- Nwyddau dŵr glaw
- Gwaith rendro, glanhau ac atgyweirio cerrig, ailbwyntio mur
- Hygyrchedd gwell
- Waliau, nenfydau, goleuadau, lloriau
- Gwaith adnewyddu hanfodol dan do neu yn yr awyr agored
- Gosod cyfleustodau a gwasanaethau, gan gynnwys gwresogi
- Cyfleusterau lles (e.e. ystafell ymolchi a chyfleusterau glanhau hanfodol)
- Gwaith cyfalaf i gynorthwyo gyda Throsglwyddo Asedau Cymunedol
Offer cyfalaf
Bydd offer cyfalaf, yn y cyd-destun hwn, yn cael ei ddiffinio fel ased ar gyfer y busnes a fydd yn cynhyrchu gwerth dros gyfnod sylweddol o amser. Rhaid i'r offer fod yn arwyddocaol ac wedi'i ystyried ar gyfer cyfalafu yn Natganiad o'r Sefyllfa Ariannol derbynnydd y grant.
Mae gwario anghymwys yn cynnwys:
NID yw’r eitemau canlynol yn gymwys i gael cymorth gan y Gronfa:
- Costau staff ar gyfer gweithwyr presennol
- Trethi
- Costau rhedeg arferol
- Busnesau Airbnb
- Cost prynu adeiladau, tir neu gerbydau
- Hurbrynu/prydlesu
- Mân atgyweiriadau a chostau redeg cyffredinol (gan gynnwys treuliau cyfleustodau)
- Ffioedd wrth gefn
- Ffioedd cyfreithiol a chyfrifyddu
- Costau gwneud cais am ganiatâd statudol megis caniatâd cynllunio
- Gwaith sy'n digwydd cyn cynnig grant (oni bai ei fod wedi'i gymeradwyo'n ysgrifenedig gan y Cyngor)
- Unrhyw anfonebau wedi'u talu gan ddefnyddio arian parod/cerdyn credyd
- Costau cyfalaf gweithio fel rhestr eiddo (stoc), rhent, ardrethi, gweinyddiaeth a/neu gerbydau
- Cost gwaith sy'n cael ei wneud fel gofyniad statudol cyfreithiol.
- Gwaith sy'n cael ei wneud ar eiddo domestig, naill ai adeilad newydd neu waith adnewyddu, estyniadau/ystafelloedd gardd/cabanau pren, addasu'n fusnes llety
Y Grant
BDatblygu Busnesau (Refeniw) – Bydd y grant ar gyfer y thema hon yn uchafswm o 50% o gostau cymwys rhesymol, hyd at uchafswm grant o £5,000 heb gynnwys TAW (os yw'n berthnasol). Bydd pob cais yn cael ei ystyried ar sail ei amgylchiadau penodol.
Datblygu Busnesau (Cyfalaf) – Bydd y grant ar gyfer y thema hon yn uchafswm o 50% o gostau cymwys rhesymol, hyd at uchafswm grant o £25,000 heb gynnwys TAW (os yw'n berthnasol). Bydd pob cais yn cael ei ystyried ar sail ei amgylchiadau penodol.
Datblygu Busnesau (Cyfalaf a Refeniw) – Ar gyfer busnesau sydd am wneud cais am gymysgedd o’r ddwy elfen, uchafswm y Grant ar gyfer yr elfen Refeniw fydd £5,000 heb gynnwys TAW (os yw’n berthnasol) ac uchafswm y grant ar gyfer yr elfen Gyfalaf fydd £20,000 sy'n golygu uchafswm cyfan o £25,000.
Ymgeiswyr Cymwys – Pwy sy'n gallu gwneud cais?
Nod y Gronfa yw cynorthwyo amrywiaeth eang o fentrau a sefydliadau lleol sy’n ymwneud â gweithgarwch economaidd, amgylcheddol, cymdeithasol a diwylliannol buddiol.
Mae'r Gronfa ar gael i fusnesau presennol a busnesau newydd mewn twristiaeth, yn benodol busnesau atyniadau a llety; mentrau micro, bach a chanolig; grwpiau cymunedol neu fentrau cymdeithasol sefydledig; unig fasnachwyr; partneriaethau; cwmnïau cyfyngedig; busnesau cymunedol, cwmnïau cydweithredol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig. Gall busnesau gwely a brecwast wneud cais ond rhaid i brif ddiben yr adeilad fod yn darparu llety twristiaeth yn hytrach na bod yn eiddo preswyl. Mae'r Gronfa hefyd ar gael i fusnesau sy'n cynnal digwyddiadau i dwristiaid sy'n para dros fis.
Cyswllt
Rhagor o wybodaeth a gofyn am ffurflen gais – E-bost busnes@caerffili.gov.uk